Lawyer - Business, Infrastructure and Treasury Division
- Recruiter
- The Welsh Government
- Location
- Wales (GB)
- Salary
- £53,440 - £63,900
- Posted
- 26 Jan 2023
- Closes
- 20 Feb 2023
- Vacancy Type
- Solicitors, Public Sector
- Contract
- Permanent
- Hours
- Full Time
- Practice Areas
- Banking/Finance, Asset Finance, Company/Commercial, Corporate, Corporate Finance, Financial Services
- Experience Level
- Junior Level, Mid Level
Lawyer - Business, Infrastructure and Treasury Division
Grade 7 - £53,440 - £63,900
There are both permanent and fixed term posts available (1-2 years) with the possibility of permanent employment at the end of the fixed term period. All of these posts are available on a job share or part time basis. There are also possible opportunities for short term secondments (1-2 years). The exercise will also seek to identify a number of successful applicants either for posting immediately or for posting to opportunities that arise over the ensuing 12 months.
Pan Wales
Smart Working - The Welsh Government actively encourages Smart Working. This means focusing on how you use your time, and where and how you work, to meet business needs in the most productive way. This provides staff with considerable flexibility with location and hours worked. Smart, flexible working is becoming a permanent feature of working life in Wales and the Welsh Government will lead the way in this.
The Legal Services Department within Welsh Government is seeking a number of highly talented lawyers to strengthen its capacity at a critical time in UK and Welsh affairs. If you are attracted by working at the forefront of the law, Welsh Government would welcome your interest. You could be a lawyer at the start of your career, an experienced lawyer seeking to apply your skills in a new and different context, or attracted by an environment which offers and embraces flexible working arrangements.
With more than 100 lawyers and support staff, organised across a wide variety of subject areas, the Legal Services Department is the largest public sector legal department in Wales. It is responsible for the delivery of all legal services to the Welsh Ministers. The Department’s lawyers are at the heart of devolved government, playing a central role in the development of Welsh primary and secondary legislation and Welsh provision in UK legislation and advising on complex matters of public law, projects of national significance and major constitutional developments. The Welsh Government is in the midst of a period of unprecedented change and challenge and the Legal Services Department needs to, in addition to providing the legal support necessary to deliver the Programme for Government, undertake critical work on the response to, and recovery from, the COVID-19 pandemic.
The posts advertised here are for roles within the Commercial and Public Contracts Team.
If you have experience in one or more of the areas listed below and are attracted by the prospect of contributing to our response to the economic development challenges that we face at this critical time whilst working within a supportive and flexible environment with ample opportunity to further develop your professional skills and experience, then the Welsh Government would welcome your interest.
The legal work of the Division is varied and wide ranging. We are therefore interested in hearing from lawyers who have skills and experience in at least one of the following areas:
• the negotiation, drafting, interpretation and enforcement of commercial agreements and grants;
• public procurement;
• debt and /or equity financing and investment;
• company law & corporate governance;
• public / private partnerships and joint ventures.
Starting salary:
With 3 or more years of post-qualification experience at offer: £53,440 (non-negotiable) and rising in stages over 3 years to £63,900;
Applications from those who have previously expressed an interest in joining the Welsh Government legal team would also be welcome.
We welcome and encourage applications from those currently underrepresented in our workforce, such as Black, Asian and Minority Ethnic people and disabled people.
For further details of these roles and our assessment criteria and process please read the advert on the Welsh Government website
Closing Date: 4pm on Monday 20th February 2023
Cyfreithiwr, yr Is-adran Busnes, Seilwaith a’r Trysorlys
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
Mae swyddi parhaol a swyddi cyfnod penodol (1-2 flynedd) ar gael, gyda’r posibilrwydd o gyflogaeth barhaol ar ddiwedd y cyfnod penodol. Mae pob un o’r swyddi hyn ar gael yn rhan-amser neu’n swyddi y gellir eu rhannu. Mae hefyd gyfleoedd posibl am secondiadau tymor byr (1-2 flynedd). Bydd yr ymarfer hefyd yn ceisio dod o hyd i sawl ymgeisydd llwyddiannus, naill ai i ddechrau swydd ar unwaith neu i gael cyfle i ddechrau swydd a fydd yn codi yn ystod y 12 mis wedi hynny.
Cymru Gyfan
Gweithio’n Glyfar - Mae Llywodraeth Cymru yn annog arferion Gweithio’n Glyfar. Mae hyn yn golygu canolbwyntio ar sut rydych yn defnyddio eich amser, a ble a sut rydych yn gweithio, er mwyn bodloni anghenion busnes yn y ffordd fwyaf cynhyrchiol. Mae hyn yn rhoi cryn hyblygrwydd i staff o ran lleoliad ac oriau gwaith. Mae gweithio’n glyfar ac yn hyblyg yn dod yn nodwedd barhaol ar ein bywyd gweithio yng Nghymru, a bydd Llywodraeth Cymru yn arwain y ffordd yn hyn o beth.
Mae’r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol o fewn Llywodraeth Cymru yn chwilio am nifer o gyfreithwyr hynod ddawnus i gryfhau ei gallu i weithredu mewn cyfnod hanfodol bwysig yn hanes Cymru a’r DU. Os yw gweithio ar flaen y gad ym maes y gyfraith yn apelio atoch, byddai Llywodraeth Cymru yn falch pe bai gennych ddiddordeb. Efallai eich bod yn gyfreithiwr ar gychwyn eich gyrfa, yn gyfreithiwr profiadol sy’n dymuno cymhwyso’ch sgiliau mewn cyd-destun newydd a gwahanol, neu’n awyddus i weithio mewn amgylchedd sy’n cynnig ac yn mabwysiadu trefniadau gwaith hyblyg.
A chanddi fwy na 100 o gyfreithwyr a staff cymorth, sy’n gweithio mewn amrywiaeth eang o feysydd pwnc, yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol yw’r adran gyfreithiol fwyaf yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n gyfrifol am ddarparu pob gwasanaeth cyfreithiol i Weinidogion Cymru. Mae cyfreithwyr yr Adran wrth galon y llywodraeth ddatganoledig, gan chwarae rhan ganolog wrth ddatblygu deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth Gymreig, a darpariaethau ar gyfer Cymru yn neddfwriaeth y DU. Maent hefyd yn cynghori ar faterion cymhleth o ran y gyfraith gyhoeddus, ar brosiectau ac iddynt arwyddocâd cenedlaethol, ac ar ddatblygiadau cyfansoddiadol mawr. Mae Llywodraeth Cymru yng nghanol cyfnod o newid a heriau na welwyd eu tebyg erioed o’r blaen, ac yn ogystal â darparu’r cymorth cyfreithiol angenrheidiol i gyflawni’r Rhaglen Lywodraethu, mae angen i’r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol ymgymryd â gwaith hollbwysig mewn cysylltiad â’r ymateb i bandemig COVID-19 a’r adferiad ar ei ôl.
Mae’r swyddi a hysbysebir yma ar gyfer rolau yn y Tîm Contractau Masnachol a Chyhoeddus.
Os oes gennych brofiad mewn un neu fwy o’r meysydd a restrir isod a bod y cyfle i gyfrannu at ein hymateb i’r heriau datblygu economaidd rydym yn eu hwynebu ar yr adeg dyngedfennol hon o ddiddordeb ichi, a hynny wrth weithio o fewn amgylchedd hyblyg a chefnogol lle mae digon o gyfle i feithrin eich sgiliau proffesiynol ac ennill mwy o brofiad, hoffai Llywodraeth Cymru glywed gennych.
Mae gwaith cyfreithiol yr Is-adran yn amrywio. Felly hoffem glywed gan gyfreithwyr sydd â sgiliau a phrofiad yn un o’r meysydd canlynol o leiaf:
• negodi, drafftio, dehongli a gorfodi cytundebau a grantiau masnachol;
• caffael cyhoeddus;
• buddsoddi a chyllido ecwiti a/neu ddyledion;
• cyfraith cwmnïau a llywodraethu corfforaethol;
• partneriaethau cyhoeddus/preifat a chyd-fentrau.
Y cyflog cychwynnol:
 thair blynedd o brofiad ar ôl cymhwyso neu fwy wrth gael cynnig y swydd: £53,440 (dim modd negodi) ac yn codi’n raddol dros dair blynedd i £63,900;
Croesewir ceisiadau gan rai sydd wedi mynegi diddordeb o’r blaen mewn ymuno â thîm cyfreithiol Llywodraeth Cymru yn ogystal.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan rai sydd, ar hyn o bryd, yn cael eu tangynrychioli yn ein gweithlu, er enghraifft pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a phobl anabl.
I gael rhagor o fanylion am y rolau hyn, ac am ein meini prawf a’n proses asesu, darllenwch yr hysbyseb ar wefan Llywodraeth Cymr.
Dyddiad Cau: 4pm